Qatar (Llun: Maes Awyr Caerdydd)
Mae pedair cenedl Arabaidd wedi torri cysylltiadau diplomyddol gyda Qatar oherwydd cefnogaeth y wlad i grwpiau Islamaidd a’i pherthynas gydag Iran.

Mae Bahrain, yr Aifft, Saudi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig wedi cyhoeddi y byddan nhw’n symud eu staff diplomyddol o Qatar, a fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022.

Dywedodd Saudi Arabia y byddai lluoedd Qatar hefyd yn cael eu tynnu o’r rhyfel yn Yemen ac mae’r gwledydd wedi dweud y byddan nhw’n gorfodi diplomyddion Qatar i adael eu tiriogaethau.

Ond dywedodd gweinidog materion tramor Qatar nad oes “unrhyw gyfiawnhad” dros benderfyniad y gwledydd, gydag addewid na fydd yn effeithio ei dinasyddion.

Mae’r pedair cenedl hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu atal traffig awyr ac ar y môr o Qatar. Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut fydd hyn yn effeithio Qatar Airways, un o’r cwmnïau awyrennau mawr sy’n hedfan yn gyson trwy ofod awyr Saudi Arabia.

Mae Qatar hefyd yn gartref i safle lluoedd milwrol yr Unol Daleithiau, lle mae tua 10,000 o filwyr wedi’u lleoli.