Mae dyn wedi saethu naw o bobol yn farw, wedi i ffrae fynd allan o reolaeth ar ol swper yn Rwsia.

Mae’r awdurdodau yn y wlad yn dweud iddyn nhw arestio dyn yn dilyn yr ymosodiad yn Redkino, tref sydd rhyw 70 millltir i’r gogledd-orllewin o Mosgow.

Yn ol rhai o’r bobol a oroesodd y digwyddiad, roedd y saethwr yn feddw ac wedi ffraeo gyda phobol eraill yn y swper; cyn gadael y ty, cyn dychwelyd gyda reiffl hela a dechrau saethu.

Bu farw pedair dynes a phump o ddynion yn y digwyddiad.