Mae o leiaf chwech o blismyn wedi’u lladd yn Afghanistan, wedi i ddau o’u cyd-swyddogion ddechrau tanio atyn nhw yn rhanbarth Kandahar.
Fe ddaeth cadarnhad fore Sul, gan bennaeth yr heddlu yn ninas Kandahar.
Mae llefarydd ar ran y Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, gan ddweud fod y ddau ddyn oedd yn gyfrifol am y saethu wedi ymaelodi gyda’r heddlu yn unswydd er mwyn gweithredu fel hyn.
Mae’r Taliban wedi cynyddu nifer yr ymosodiadau yn erbyn lluoedd diogelwch Afghanistan ledled y wlad.