Mae penderfyniad Arlywydd America i gefnu ar Gytundeb Paris wedi ei feirniadu yn hallt gan arweinwyr gwledydd eraill.

Yn ôl Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, mae penderfyniad Donald Trump i gefnu ar addewidion ei wlad i fynd i’r afael â chynhesu byd eang yn “hynod anffodus, a dweud y lleiaf”.

Ac fe ddywedodd y dyn sydd am fod yn Llywydd nesa’r Undeb Ewropeaidd fod penderfyniad Trump yn “ddrwg iawn, negyddol iawn”. Yn ôl Juri Ratas, Prif Weinidog Estonia, fe fydd yn rhaid i wledydd yr Undeb Ewropeaidd ddangos mwy o arweiniad wrth fynd i’r afael â chynhesu byd eang.

Ac mae Pennaeth Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, Erik Solheim, wedi dweud y bydd China, India a’r Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd ar y mater.

Yn ôl Cyfarwyddwr Greenpeace yn Sbaen bydd cwmnïau yn America yn parhau i geisio dadwneud effeithiau cynhesu byd eang.

“Nid oes modd cefnu ar y frwydr yn newid hinsawdd,” meddai Mario Rodriguez. “Bydd y gwrthwynebiad yn parhau oherwydd mae’r Unol Daleithiau yn gymaint mwy na dim ond y Tŷ Gwyn a Trump.”