Resort World Manila (Aeorus CCA2.0)
Mae o leia’ 36 o bobol wedi mygu i farwolaeth wedi i ddyn â gwn roi byrddau gamblo ar dân mewn casino yn y Philipinau.
Wrth ddianc, wedyn, fe wnaeth y dyn ddwyn tshipiau gamblo o’r casino cyn cael ei ffeindio mewn gwesty cyfagos y bore yma wedi’i ladd ei hun.
Daethpwyd o hyd i gyrff y 36 o bobol yn ystafell Gamblo’r ‘Resorts World Manila’ gan ddynion tân.
Mae mwy na 50 o bobol wedi eu hanafu hefyd ac mae perchnogion y ganolfan wyliau – sy’n cynnwys nifer o westai, bwytai a llefydd adloniant – wedi agor llinell gymorth.
Brawychaeth – dim prawf meddai’r heddlu
Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Manila, Oscar Albayalde, does dim olion bwledi ar yr un o’r cyrff ac maen nhw’n dweud mai dwyn oedd y cymhelliad.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) wedi cyhoeddi mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, ond mae’r heddlu’n mynnu nad oes yna ddim tystiolaeth i awgrymu mai ymosodiad brawychol oedd hwn.
Er hynny, mae gwrthdaro yn ninas ddeheuol Marawi am yr ail wythnos yn olynol rhwng lluoedd arfog llywodraeth y Phillipines a gwrthryfelwyr Mwsleimaidd sy’n gefnogol o ISIS.