Llun: PA
Mae beth bynnag 64 o bobol wedi’u lladd, a thros 300 arall wedi’u hanafu, wedi i fom car anferth ffrwydro ym mhrifddinas Afghanistan.

Fe ffrwydrodd y bom yn ystod awr frys bore Mercher, nes bod mwy na 30 o gerbydau wedi’u dinistrio neu eu difrodi.

Nid oes yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymsoodiad hyd yn hyn, ond mae’r Taliban a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi bod yn targedu’r brifddinas yn y gorffennol.

Fe ffrwydrodd y ddyfais yn ardal Wazir Akbar Khan, lle mae swyddfeydd llysgenhadon nifer o wledydd, ynghyd a phalas arlywydd Afghanistan.

Mae’n cael ei ystyried yn un o’r ardaloedd saffaf yn Kabul, lle mae waliau uchel yn gwarchod adeiladau, a lle mae heddlu a lluoedd diogelwch ar ddyletswydd.