Vladimir Putin, arlywydd Rwsia (Llun: PA)
“Ffuglen” ydi unrhyw honiadau fod gan Rwsia ddylanwad o gwbwl yn ystod ras arlywyddol yr Unol Daleithiau, meddai’r arlywydd, Vladimir Putin.

Does yna ddim sail o gwbwl, meddai, i honiadau ei fod wedi bod yn mela yn y broses etholiadol.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd Le Figaro yn Ffrainc, mae Vladimir Putin wedi gwadu, unwaith yn rhagor, fod Rwsia wedi hacio ebyst y blaid Ddemocrataidd er mwyn cefnogi ymgyrch Donald Trump.

“Mae rhai yn dymuno rhoi’r bai ar Rwsia am iddyn nhw golli’r etholiad arlywyddol yn America,” meddai wrth y papur.

“Mae’r rheiny gollodd yn casau cydnabod hynny, oherwydd mae’r ymgeisydd llwyddiannus yn agosach at y bobol ac ynh deall yn well yr hyn oedd y bobol ei angen.”Mr Trump made a similar claim in a tweet early on Tuesday.

“Dw i’n siwr fod swyddogion Rwsia yn chwerthin wrth glywed esgus mor wan am golli’r etholiad… dyma beth yw ‘fake news’.”