Mae ffrwydrad anferth y tu allan i barlwr hufen ia poblogaidd yn Baghdad, wedi lladd beth bynnag 31 o bobol.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ym mhrifddinas Irac, yn ogystal ag am ymosodiadau eraill yn y ddinas a laddodd saith o bobol eraill.

Fe ddaw’r bomiau diweddaraf hyn yn Baghdad wrth i IS golli gafael ar Mosul, ail ddinas Irac.

Mae lluniau teledu cylch-cyfyng o’r ymosodiad ar barlwr hufen ia yn ardal fyrlymus Karrada yn Baghdad, yn dangos y stryd yn llawn pobol a lot o draffig. Fe gafodd 32 o bobol eu hanafu hefyd.

Mae pob un o’r ymosodiadau wedi targedu ardaloedd masnachol, ac fe ddont ar ddechrau mis sanctaidd Ramadan, pan mae Mwslimiaid ynymwrthod a bwyd yn ystod oriau’r dydd.