Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae prif gyfarwyddwr cyfathrebu’r Tŷ Gwyn wedi ymddiswyddo ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump ystyried ailwampio staff yr adran.

Daw ymddiswyddiad Michael Dubke yn sgil adroddiadau bod yr Arlywydd yn teimlo’n rhwystredig yn dilyn honiadau bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad yn 2016 a chysylltiadau posib rhwng ei ymgyrch arlywyddol a Moscow.

Mewn datganiad dywedodd Michael Dubke ei fod wedi bod yn “fraint” gwasanaethu Donald Trump.

Fe ymunodd a’r Tŷ Gwyn ym mis Chwefror. Michael Dubke yw’r diweddaraf i adael y weinyddiaeth wrth i’r honiadau ddwysau am gysylltiadau staff Donald Trump gyda swyddogion llywodraeth Rwsia yn ystod yr ymgyrch arlywyddol ac ar ôl hynny.