Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Mae gwrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) bellach o dan warchae  mewn pocedi o ddinas Mosul wrth i luoedd Irac ennill rheolaeth o’r rhan fwyaf o’r ddinas.

Mae llywodraeth Irac yn galw ar bobl gyffredin i ddianc o ardal hynafol y ddinas, ond mae pryder bod llawer yn cael eu dal yn gaeth gan ymladdwyr ISIS.

Er bod y diriogaeth sydd yn nwylo ISIS yn llai na 5% o’r ddinas, mae’n ymddangos bod eu gafael yn gadarn ar y mannau hyn.

Gan nad oes modd i’r gwrthryfelwyr ddianc mae disgwyl iddyn nhw ymladd i’r diwedd i ddal gafael ar eu cadarnleoedd olaf yn y ddinas.

Mae ardal hynafol y ddinas o arwyddocâd dwfn i’r gwrthryfelwyr gan mai yma y cyhoeddodd eu harweinydd Abu Bakr al-Baghdadi y califfet Islamaidd yn ymestyn dros diroedd ISIS yn Syria ac Irac ym mis Mehefin 2014.

Mae disgwyl i’r gwarchae presennol barhau am rai wythnosau o leiaf.