Mae’r dyn oedd yn cael ei alw yn “Houdini” ar death row yn Alabama, wedi ei ddienyddio.

Fe lwyddodd Tommy Arthur i osgoi’r gosb eithaf saith gwaith, a hynny drwy herio’r drefn yn y llysoedd barn.

Cyhoeddwyd bod y llofrudd 75 oed yn farw am 12.15am mewn carchar yn Alabama. Roedd gwenwyn wedi ei chwistrellu i’w gorff.

Aeth 34 o flynyddoedd heibio ers i Tommy Arthur gael ei ganfod yn euog o saethu Troy Wicker wrth iddo gysgu yn ei wely.

Roedd gwraig Troy Wicker wedi talu $10,000 i Tommy Arthur fynd i’w cartref a lladd ei gŵr.

Yn ei ddatganiad olaf, roedd Tommy Arthur yn ymddiheuro i’w blant: “Mae’n ddrwg gen i fy mod i wedi bod yn dad gwael.”

Roedd dau fab Troy Wicker yno i weld y dienyddio ond wnaethon nhw ddim siarad gyda’r Wasg.