Mae tanciau’r fyddin wedi cael eu hanfon i ddinas yn ne’r Ffilipinas yn dilyn sŵn gynnau a bomiau ar ôl i ymladdwyr roi adeiladau ar dân a chipio dros ddwsin o wystlon Cristnogol a chodi baner ddu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Mae o leia’ 21 o bobol wedi marw yn dilyn yr ymladd a ddechreuodd nos Fawrth pan gynhaliodd y fyddin gyrch ar fan cuddio Isnilon Hapilon yn ninas Marawi.

Mae e ar restr America fel un o’r brawychwyr maen nhw’n chwilio amdano ac mae ‘na wobr o 5 miliwn o ddoleri [£3.8 miliwn] amdano.

Aeth ymgyrch y fyddin o’i le ar ôl i’r brawychwyr alw am gymorth a gipiodd grym drwy’r ddinas Fwslimaidd o thua 200,000 o bobol.

Dyw’r man lle’r oedd Isnilon Hapilon yn cuddio ddim yn glir, ond does dim sôn ei fod wedi cael ei ddal yn ystod y cyrch.

Roedd miloedd o bobol yn dianc o’r ddinas dydd Iau, gydag adroddiadau bod pennaeth yr heddlu lleol wedi cael ei stopio gan y brawychwyr a’i ddienyddio.

Cipio gwystlon

Dywedodd Esgob Marawi, Edwin de la Pena, fod y brawychwyr wedi gwthio ei hunain i mewn i Eglwys Gadeiriol Marawi ac wedi cipio’r offeiriad Catholig, 10 addolwr a thri gweithiwr yn yr Eglwys.

Mae arlywydd dadleuol y Ffilipinas, Rodrigo Duterte, wedi dweud y bydd yn defnyddio rheolaeth filwrol i arestio pobol yn gyflymach, gan ddweud y bydd pobol yn marw.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi codi pryderon y gallai rheolaeth filwrol annog Rodrigo Duterte ymhellach, sydd wedi’i gyhuddo o alluogi lladd miloedd o bobol yn ei frwydr yn erbyn cyffuriau anghyfreithlon.

Fe dyngodd Isnilon Hapilon, sy’n bregethwr Islamaidd, llw i IS yn 2014. Mae e’n bennaeth ar y grŵp brawychol, Abu Sayyaf.