Mae cyrff o leia’ 34 o ffoaduriaid, llawer ohonyn nhw’n blant, wedi cael eu tynnu o’r môr ger Libya ar ôl i tua 200 o fudwyr ddisgyn i’r dŵr garw pan fu eu cwch droi drosodd ddydd Mercher.

“Roedd llawer o’r cyrff yn blant bach,” meddai Chris Catambrone o’r grŵp nid am elw, MOAS o Malta sy’n achub ffoaduriaid sy’n ceisio croesi at Ewrop.

Fe wnaeth y grŵp drydar lluniau o’r rhai a oroesodd mewn siacedi bywyd oren ym Môr y Canoldir wrth iddyn nhw aros cyn cael eu hachub.

Mewn datganiad, dywedodd gwylwyr y glannau Yr Eidal, bod “ymyrraeth gyflym” y gwylwyr a MOAS wedi golygu bod y rhan fwyaf o bobol wedi cael eu hachub.

Roedd y digwyddiad yn un o sawl gweithred achub a gafodd eu cydlynu gan wylwyr y glannau yr Eidal.

Cafodd tua 1,800 o bobol eu hachub o gychod bach neu gychod pysgota pren ddydd Mercher.