Lenin Moreno
Mae Lenin Moreno wedi tyngu llw yn arlywydd Ecwador, gan addo i wella rhaniadau wedi degawd o lywodraeth yr adain chwith.

Fe gafodd ei wneud yn arlywydd swyddogol yn ystod seremoni yng nghyngres Ecwador flaen 12 o arweinyddion gwledydd eraill America Ladin.

Mae disgwyl i’r llywodraeth newydd agor deialog â’r sector preifat, yn wahanol i’r rhagflaenydd a mentor gwleidyddol, Rafael Correa, oedd yn cadw draw.

Mae sawl person busnes wedi cael eu cynnwys yng nghabinet yr arlywydd newydd, gan gynnwys aelod o’r teulu Noboa, sy’n un o deuluoedd cyfoethocaf Brasil, fel gweinidog masnachu.

Cafodd wyth dynes eu penodi hefyd, gan gynnwys y gweinidog tramor a llywydd y banc canolog.

“Ni all deialog ddigwydd heb ryddid mynegiant,” meddai Lenin Moreno, sy’n cael ei weld fel ymgais i gymodi â chyfryngau’r wlad oedd yn dan y lach yn ystod gweinyddiaeth Rafael Correa.

Yr etholiad

Fe gurodd Lenin Moreno y banciwr ceidwadol, Guillermo Lasso, o drwch blewyn yn yr etholiad oedd yn cael ei weld fel refferendwm ar ‘Chwyldro Dinasyddion’ Rafael Correa.

Lenin Moreno oedd dirprwy arlywydd cyntaf Rafael Correa.

Mae’r cyn-arlywydd wedi ymddeol ond mae wedi dweud ei fod yn barod i redeg eto am yr arlywyddiaeth pe bai problemau economaidd Ecwador yn dwysáu.