Mae tri phlismon wedi’u lladd, a dau arall wedi’u hanafu, wedi i’w cerbyd yrru tros fom yn Cenia.
Roedd yr heddlu’n symud o’u canolfan yn Kula i gyfeiriad tref Liboi sydd ar y ffin â Somalia.
Fe ddaeth y ffrwydrad ddiwrnod wedi i bennaeth yr heddlu, Joseph Boinnet, gyhoeddi fod eithafwyr al-Shabab yn addo cynyddu nifer yr ymosodiadau yn y wlad.
Yn ystod y pythefnos diwethaf, fe fu ymosodiadau gan y grwp yn siroedd Garissa a Mandera, ac fe gafodd pedwar o bobol mewn cerbyd eu lladd gan fom yr wythnos ddiwethaf.
Mae lluoedd Cenia yn rhan o lu Undeb Affrica yn Somalia, ac maen nhw wedi llwyddo i rwystro nifer yr ymosodiadau yn y brifddinas, Nairobi, a’r prif drefi.