Pab Ffransis
Mae Donald Trump yn y Fatican heddiw i gyfarfod â’r Pab.

Dydyn nhw ddim wedi cydweld ers i Arlywydd yr Unol Daleithiau gael ei urddo.

Daw’r cyfarfod hanner ffordd drwy ei daith ryngwladol.

Fe fu gwrthdaro rhwng y ddau y llynedd, pan oedd y Pab Ffransis yn feirniadol o ymgyrch Donald Trump i godi wal ger y ffin â Mecsico, ac o’i agwedd tuag at Fwslemiaid a ffoaduriaid.

Mae cyfarfodydd â’r Pab fel arfer yn para 20-30 munud.