Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae arweinwyr ar draws y byd wedi condemnio’r ymosodiad ym Manceinion neithiwr pan gafodd 22 o bobl eu lladd, nifer o blant yn eu plith.

Mae’r Arlywydd Donald Trump, sydd ar ymweliad ag Israel, wedi estyn cydymdeimlad at y teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddweud bod yr ymosodwyr yn “anfad.”

Wrth annerch senedd y wlad, dywedodd Prif Weinidog Awstralia Malcolm Turnbull ei fod yn “ymosodiad ciaidd ar bobl ifanc ymhobman, ar ryddid ymhobman.”

“Mae’r digwyddiad, yr ymosodiad yma, yn arbennig o greulon, yn hynod o erchyll, am ei fod yn ymddangos ei fod wedi’i dargedu’n fwriadol at blant yn eu harddegau,” meddai.

Yn India, dywedodd y Prif Weinidog Narendra Modi ar Twitter ei fod yn “condemnio’n chwyrn” yr ymosodiad ym Manceinion a bod eu meddyliau gyda theuluoedd y rhai fu farw ac sydd wedi’u hanafu.

“Undod”

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Japan: “Os yw hyn yn ymosodiad brawychol, ni ellir cyfiawnhau gweithredoedd brawychol mor ffiaidd am unrhyw reswm, ac mae Japan yn condemnio gweithred brawychol o’r fath.”

Wrth estyn ei gydymdeimlad gyda theuluoedd y 22 o bobl gafodd eu lladd, a’r 59 sydd wedi’u hanafu dywedodd bod Japan yn “sefyll mewn undod gyda phobl y Deyrnas Unedig.”

Wrth ymateb i’r digwyddiad, fe drydarodd Prif Weinidog Canada Justin Trudeau bod pobl y wlad “wedi’u synnu o glywed am yr ymosodiad erchyll ym Manceinion.  Cadwch y dioddefwyr a’u teuluoedd yn eich meddyliau.”

Fe drydarodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk: “Mae fy nghalon ym Manceinion y noson hon. Mae ein meddyliau gyda’r dioddefwyr.”