Kim Jong-un (Llun: PA)
Mae De Corea yn honni bod Gogledd Corea wedi lansio taflegryn o Pyongyang.

Does dim llawer o fanylion ar hyn o bryd, ond mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei lansio o ardal Pukchang.

Daw’r digwyddiad wythnos yn unig ar ôl i Ogledd Corea brofi taflegryn newydd sydd â’r gallu, yn ôl arbenigwyr, i gyrraedd Alaska neu Hawaii.