Mosul (Llun parth cyhoeddus)
Gallai Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – golli eu gafael ar ddinas Mosul yn Irac “o fewn diwrnodau”.

Dyna mae Prif Weinidog Irac, Fuad Masum wedi ei ddarogan wrth agor Fforwm Economaidd y Byd heddiw.

Cafodd Mosul ei chipio gan yr eithafwyr Islamaidd yn 2014 ond ers yr hydref, fe fu milwyr Irac yn cefnogi cynghrair Americanaidd i adennill y ddinas.

Dywedodd Fuad Masum fod Irac “wedi cael buddugoliaeth gadarn tros frawychiaeth”, ac mai’r gobaith yw rhyddhau’r ddinas yn llwyr dros y dyddiau nesaf.

Mae e wedi galw ar fuddsoddwyr i helpu Irac i adeiladu’r ddinas o’r newydd yn dilyn yr holl ddifrod sydd wedi cael ei wneud dan law Daesh.