Julian Assange
Mae erlynwyr yn Sweden wedi penderfynu rhoi’r gorau i ymchwilio i gyhuddiad o drais yn erbyn sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange.
Daeth cyhoeddiad Cyfarwyddwr Erlyniad Cyhoeddus Sweden, Marianne Ny, cyn iddyn nhw gynnal cynhadledd i’r wasg ar y mater.
Yn wreiddiol, roedd Julian Assange yn wynebu tri o honiadau ei fod wedi troseddu yn rhywiol, a chwe mis yn ôl roedd yn gwadu’r cyhuddiadau wrth gael ei holi gan swyddogion o Sweden.
Mae Julian Assange wedi byw oddi fewn i Lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain am bron i bum mlynedd.
Gallai Julian Assange gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau pe bai’n gadael Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain.
Fe allai wynebu treial yno am ryddhau cannoedd o ddogfennau milwrol a diplomatig yr Unol Daleithiau.