Mae sylfaenydd Fox News, a gafodd ei ddiswyddo o’r sianel yn dilyn honiad o ymosodiad rhyw ar gydweithiwr, wedi marw yn 77 oed.

Fe fu Roger Ailes yn gweithio i’r blaid Weriniaethol, ac i’r arlywyddion Richard Nixon, Ronald Reagan a George HW Bush, cyn mynd ati i sefydlu Fox News yn 1996. Fe ddaeth hynny wedi iddo dderbyn her gan Ruport Murdoch i adeiladu rhwydwaith newyddion o ddim i gystadlu â CNN.

Mi aeth y Fox News Channel ymlaen i fod y sianel newyddion ddigidol fwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau.

Mae gan y sianel ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth America hefyd ac wedi cael ei chyhuddo o ddangos ffafriaeth tuag at y Gweriniaethwyr, er roedd Roger Ailes yn mynnu bod y sianel yn “deg.”

Cafodd ei ddiswyddo o Fox Newys ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn cyhuddiad gan gyn ddarllenwraig newyddion y sianel, Gretchen Carlson, ei fod wedi ymddwyn yn anweddus tuag ati