Colombo
Mae beth bynnag 19 o bobol wedi’u hanafu wedi i adeilad pum-llawr ddymchwel ym mhrifddinas Sri Lanca.

Mae llefarydd ar ran heddlu Colombo wedi cadarnhau fod 19 o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r heddlu, ynghyd ag ymladdwyr tân, wrthi’n chwilio am bobol eraill a allai fod yn sownd yn y rwbel y ty oedd wrthi’n cael ei adeiladu.

Ar hyn o bryd, does neb yn siwr o’r rheswm am y cwymp.