Donald Trump
Mae cyn-gyfarwyddwr yr FBI, Robert Mueller, wedi ei benodi i arwain ymchwiliad i’r cysylltiadau rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau a Rwsia.

Mi fydd ganddo’r pŵer i erlyn unrhyw drosedd sydd yn dod i’r amlwg wrth iddo geisio sefydlu os wnaeth ymgyrch Donald Trump gydweithio â Rwsia yn ystod etholiad arlywyddol 2016.

Yn sgil y cyhoeddiad mae Donald Trump wedi datgan eto “na wnaeth yr ymgyrch gyd-gynllwynio â neb o dramor”.

Gan ymateb i’r cyhuddiadau yn erbyn Donald Trump, dywedodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, fod “sgitsoffrenia wleidyddol ar led yn yr Unol Daleithiau” a chynigodd gyflwyno cofnodion o’r cyfarfodydd rhwng ei ddiplomyddion a staff y Tŷ Gwyn.

Mae apwyntiad Robert Mueller wedi cael ei groesawu gan aelodau’r ddwy blaid yng nghyngres yr Unol Daleithiau.