Mae arlywydd Brasil, Michel Temer, wedi gwadu adroddiad ei fod wedi cefnogi’r syniad o lwgr-wobrwyo gwleidydd arall sydd bellach yng ngharchar, er mwyn ei gadw’n dawel.

Fe wnaed yr honiad ym mhapur newydd, Globo, ac mae wedi bod yn ergyd i Michel Temer, a ddaeth i rym ychydig dros flwyddyn yn ol.

Mewn datganiad, mae swyddfa’r arlywydd yn mynnu na fu Michel Temer erioed o blaid talu Eduardo Cunha, cyn-Lefarydd y Ty, er mwyn prynu ei ffyddlondeb.

Eduardo Cunha oedd yn gyfrifol am arwain yr ymgyrch i uchel-gyhuddo’r cyn-arlywydd, Dilma Rousseff, y llynedd, gan wneud y ffordd yn glir i Michel Temer gael ei ethol. Mae Eduardo Cunha wedi’i ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar wedi i lys ei gael yn euog o ymddwyn yn llwgr.