Kinshasa
Mae aelodau o sect Gristnogol wedi ymosod ar garchar ym mhrifddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Kinshasa, er mwyn rhyddhau eu harweinydd a 50 o bobol eraill.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder y wlad, Alexis Thambwe Mwamba, fod aelodau o fudiad Bundu dia Kongo wedi ymosod ar y carchar fore Mercher. Mae’r awdurdodau’n dal i chwilio am eu harweinydd, Ne Mwanda Nsemi, oedd wedi cael ei ryddhau.

Mae adroddiadau bod dryll wedi cael ei danio, ac fe ddywedodd Alexis Thambwe Mwamba fod yr awdurdodau wedi llwyddo i adfeddiannu’r carchar.

Cafodd nifer o bobol, gan gynnwys Alexis Thambwe Mwamba, eu harestio yn dilyn gwrthdaro ym mis Mawrth wrth iddyn nhw geisio dychwelyd y Congo i’r drefn gyn-drefedigaethol.