Mae naw o bobol wedi cael eu hanafu a dau o bobol wedi’u harestio yn dilyn ffrwgwd yn llysgenhadaeth Twrci yn Washington

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys fod dau o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 4.30yp ddydd Mawrth (Mai 16).

Cadarnhaodd fod ffrwgwd wedi bod, ond does dim rhagor o fanylion am y digwyddiad.

Cafodd un person ei gyhuddo o ymosod ar blismon.

Digwyddodd y ffrwgwd ar ddiwrnod cyfarfod Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Mae’r awdurdodau wedi gwrthod gwneud sylw.