Mae adroddiadau heddiw’n honni fod Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi apelio ar gyn-gyfarwyddwr yr FBI, James Comey, i ddod ag ymchwiliad am gysylltiadau rhwng ei gyn-ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol a Rwsia i ben.

Mae’n debyg bod memo a gafodd ei ysgrifennu ym mis Chwefror gan James Comey, yn datgelu fod Donald Trump wedi gofyn i’r FBI roi’r gorau i’r ymchwiliad am Michael Flynn.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi gwrthod yr honiadau gan nodi “nad yw’r Arlywydd erioed wedi gofyn i Mr Comey neu unrhyw un arall i ddod â’r ymchwiliad i ben”.

Cafodd James Comey ei ddiswyddo gan Donald Trump wythnos ddiwethaf oherwydd y modd yr oedd wedi ymdrin ag ymchwiliad e-byst y gwleidydd Democrataidd Hillary Clinton.

Yn sgil yr honiadau diweddaraf yma mae nifer o aelodau cyngres yr Unol Daleithiau wedi galw bod cofnodion o’r trafodaethau rhwng Donald Trump a James Comey yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd y mis.