Emmanuel Macron, Llun: O gyfrif Twitter En Marche!
Ar ei ail ddiwrnod fel Arlywydd newydd Ffrainc mae Emmanuel Macron wedi croesawu’r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd i Balas Elysee.

Daw’r cam fel symbol o gefnogaeth at gynnig Paris ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2024 – wrth i’r brifddinas gystadlu yn erbyn Los Angeles yn yr Unol Daleithiau.

Mi fyddai cynnal y Gemau yn hwb fawr i Ffrainc yn dilyn cwymp yn nylanwad rhyngwladol y genedl.

Ag yntau ond newydd ddechrau ei swydd, mae Emmanuel Macron eisoes wedi bod ar ei daith arlywyddol gyntaf i gwrdd â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel,  ac mae e nawr yn wynebu’r her o sefydlu llywodraeth.

Mae’r Arlywydd 39 oed wedi derbyn llawer o feirniadaeth o bob asgell yn dilyn penodiad Edouard Philippe fel ei Brif Weinidog ddydd Llun, ac mi fydd yn rhaid iddo droedio’n ofalus wrth benodi gweinidogion newydd.