Mae’r ymosodiad seibr sydd wedi effeithio ar fwy na 150 o wledydd dros y tridiau diwethaf yn parhau heddiw wrth i bobol ddychwelyd i’w gwaith.

Dylai sefydliadau a chwmnïau ddiweddaru eu systemau Microsoft, gan gynnwys Windows XP, er mwyn gwrthsefyll ymosodiadau pellach, yn ôl arbenigwyr ar ddiogelwch y We.

Fe ddaeth hi i’r amlwg ddydd Gwener fod ymosodiadau seibr wedi parlysu cyfrifiaduron ymhob cwr o’r byd – gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a Rheilffordd Genedlaethol yr Almaen.

Ledled y byd…

Mae mwy na 200,000 o gwmnïau a sefydliadau ledled y byd wedi’u heffeithio, a hynny mewn gwledydd yn cynnwys Rwsia, Wcráin, Brasil, Sbaen ac India.

Yn Siapan, mae adroddiadau fod 2,000  o gyfrifiaduron mewn 600 o leoliadau wedi’u heffeithio, gyda chwmnïau Hitachi a Nissan yn adrodd am broblemau.

Mae De Corea wedi diodde’ problemau i gadwyn o sinemâu sydd wedi’u rhwystro rhag dangos clipiau o ffilmiau newydd.

Ac mae gweinyddiaeth fewnol Rwsia, cwmnïau Telefonica yn Sbaen, FedEx o’r Unol Daleithiau a gwneuthurwyr ceir Renault yn Ffrainc hefyd wedi’u heffeithio gan yr anhrefn.