Mae Gogledd Corea wedi dweud mai math newydd o roced sydd yn medru dal pen ffrwydrol niwclear, yw’r taflegryn gafodd ei lansio dros y penwythnos.

Os caiff yr honiad ei gadarnhau, mi fydd yn golygu bod y wlad gam yn agosach at fedru lansio taflegryn niwclear at yr Unol Daleithiau.

Yn dilyn ei lansiad ddydd Sul,  mi wnaeth y taflegryn hedfan am tua hanner awr gan deithio pellter o 500 milltir a chyrraedd uchder o 1,240 cyn plymio i fôr Japan.

Daeth y lansiad yn sgil penodiad Arlywydd newydd De Corea, Moon Jae-in, wythnos ddiwethaf – dyn sydd wedi cyfleu awydd i drafod â’r gogledd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr arlywydd ei fod o hyd yn “agored i’r posibiliad o sefydlu deialog â Gogledd Corea” ond bod y wlad yn ystyried “delio’n llym” ag unrhyw weithredoedd milwrol o’r fath yn y dyfodol.