Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, (Llun: O gyfrif Twitter En Marche!)
Mae Arlywydd newydd Ffrainc Emmanuel Macron wedi rhoi addewid i gryfhau’r Undeb Ewropeaidd, gweddnewid gwleidyddiaeth ei wlad ac uno’r genedl.

Cafodd ei dderbyn yn ffurfiol yn olynydd i Francois Hollande mewn seremoni fawreddog ym Mhalas Elysée ym Mharis ddoe.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi pwy fydd ei brif weinidog heddiw a bydd hefyd yn teithio i Ferlin i gwrdd â Changhellor yr Almaen Angela Merkel.

Ymhlith yr enwau sy’n cael eu crybwyll ar gyfer swydd y Prif Weinidog mae Edouard Philippe, 46, sy’n aelod o’r blaid Weriniaethol asgell dde.

Fe fyddai ei benodiad yn cael ei weld fel ymdrech gan y canol bleidiwr, Emmanuel Macron, i greu mwyafrif yn y senedd drwy benodi gwleidyddion o’r asgell dde.

Un o’i flaenoriaethau yw adfer y gefnogaeth i undod Ewropeaidd drwy ei gryfhau a’i adfer. Ffrainc yw un o sylfaenwyr yr Undeb Ewropeaidd a’r trydydd economi fwyaf ar ôl yr Almaen a’r Deyrnas Unedig.

Yn 39 oed, Emmanuel Macron yw’r Arlywydd ieuengaf erioed yn hanes Ffrainc.