Mae o leiaf 23 o bobol wedi marw ac mae 11 o bobol mewn cyflwr difrifol ar ôl i fws foelyd yn Nhwrci.

Daeth y bws oddi ar y ffordd wrth iddo deithio o Izmir i Marmaris.

Trigolion o Dwrci oedd yr holl deithwyr.

Mae’r ffordd ynghau ar hyn o bryd, sy’n achosi cryn dipyn o oedi.

Mae ymchwiliad ar y gweill.