Mae hunanfomiwr wedi lladd 25 ac anafu hyd at 35 arall yn ne-orllewin Pacistan, yn ôl yr heddlu.

Ffrwydrodd yr hunanfomiwr ei fom ar bwys confoi ar ochr y ffordd yn nhref Mastung yn nhalaith Baluchistan, gan anafu Dirprwy Arweinydd Senedd Pacistan, Abdul Ghafoor Haideri.

Dywedodd yr uwch swyddog heddlu, Abdul Razzaq Cheema, bod o leiaf un swyddog heddlu wedi ei ladd wrth i’r bomiwr dargedu confoi.

Erbyn hyn mae’r Waldwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am y bomio.