Mae Twrci wedi beirniadu penderfyniad yr Unol Daleithiau i arfogi milwyr Cwrdaidd Syria er mwyn ceisio adennill dinas Raqqa oddi ar Daesh.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi ddydd Mawrth, ond mae Twrci’n gwrthwynebu gan fod milwyr Cwrdaidd yn ennill tir yn ne-ddwyrain y wlad.

Yn ôl Gweinidog Tramor Twrci, Mevlut Cavusoglu, does dim gwahaniaeth rhwng milwyr Cwrdaidd Syria a gwrthryfelwyr Cwrdaidd anghyfreithlon fu’n brwydro yn erbyn Twrci.

Dywedodd fod “pob arf sy’n cyrraedd eu dwylo’n fygythiad i Twrci”.

Ychwanegodd Dirprwy Brif Weinidog Twrci, Nurettin Canikli fod y penderfyniad yn “annerbyniol” ac yn “gyfystyr â chefnogi grŵp brawychol”.

Mae disgwyl i Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan drafod y mater ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn ystod ymweliad â Washington yr wythnos nesaf.

Mae Cwrdiaid Syria, fodd bynnag, yn croesawu penderfyniad yr Unol Daleithiau, gan alw’r penderfyniad yn un “hanesyddol” ac yn “arwydd o hyder” ynddyn nhw.