Doedd y dyn sy’n cael ei amau o gynllwynio ymosodiad brawychol yn Stockholm fis diwethaf ddim yn sâl yn feddyliol adeg y digwyddiad, meddai adroddiad meddygol.

Mae’r adroddiad seiciatrig fforensig a gyflwynwyd i Lys Ardal Stockholm heddiw, yn dweud fod Uzbek man Rakhmat Akilov, 39, yn feddyliol iach.

Mae Uzbek man Rakhmat Akilov wedi pledio’n euog i gyhuddiad o yrru lori i ganol tyrfa o bobol ar brif stryd siopa prifddinas Sweden.

Roedd cais ganddo i gael dod yn ddinesydd wedi’i wrthod gan yr awdurdodau y llynedd.