Yr Alpau yn Ffrainc
Mae tri o bobl wedi marw mewn cwymp eira yn yr Alpau yn Ffrainc, meddai swyddogion.

Fe ddigwyddodd y cwymp eira tua 12yp ddydd Mawrth yng nghanolfan sgïo Bonneval-sur-Arc yn ardal Savoie.

Yn ôl adroddiadau cafodd dau ddyn a dynes, a oedd yn gerddwyr profiadol, eu lladd.

Dywed yr awdurdodau yn Ffrainc bod gwaith y timau achub bellach wedi dod i ben ac na chafodd  unrhyw un arall eu lladd yn y digwyddiad.