Emmanuel Macron (Llun: PA/Thibault Camus)
Fe fydd llwyddiant Emmanuel Macron yn yr etholiad arlywyddol yn Ffrainc yn golygu y bydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses Brexit.

Mae Prif Weinidog Prydain wedi ei longyfarch ar ei lwyddiant ddoe ac fe bwysleisiodd Downing Street bod Ffrainc yn un o gynghreiriaid agosaf y Deyrnas Unedig a bod Theresa May yn edrych ymlaen at gyd-weithio gydag ef ar “ystod eang o flaenoriaethau rydym yn eu rhannu.”

Cafodd Brexit ei drafod “am gyfnod byr” yn ystod galwad ffôn rhwng Theresa May ac Emmanuel Macron nos Sul, ac mae’n debyg bod y Prif Weinidog  wedi dweud bod y “DU eisiau partneriaeth gref.”

Ond mae darpar-Arlywydd Ffrainc eisoes wedi awgrymu y bydd yn gadarn yn ystod y trafodaethau Brexit, ac fe ddefnyddiodd ymweliad a Downing Street yn ystod ei ymgyrch arlywyddol i lansio ymdrech i ddenu bancwyr ac academyddion o’r DU.

Mae Emmanuel Macron wedi rhybuddio y bydd yn amddiffyn marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd a’i fod yn ffafrio Brexit “caled”.

“Pennod newydd”

Fe lwyddodd Emmanuel Macron, 39, i sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad arlywyddol gan guro’r ymgeisydd arall, Marine Le Pen, gyda 66% o’r pleidleisiau. Fe yw’r arlywydd ieuengaf  yn hanes Ffrainc.

Mae eisoes yn paratoi at gymryd yr awenau gyda chynlluniau ar gyfer ymweliad a’r Almaen, a newid enw ei blaid En Marche!.

Dywedodd bod hyn yn “ddechrau ar bennod newydd” yn Ffrainc.

Yn y cyfamser mae plaid Marine Le Pen, y National Front, wedi dweud ei bod yn bwriadu newid ei henw er mwyn denu ystod fwy eang o gefnogwyr yn Ffrainc.