Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea wedi cyhuddo gwasanaethau cudd yr Unol Daleithiau a De Corea o geisio llofruddio’i harweinydd, Kim Jong Un, a methu.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Gogledd Corea yn dweud y bydd yn “dod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol, a’u dinistrio’n ddidrugaredd” wrth ddisgrifio’r rhai y mae’n eu hamau o’r weithred yn “derfysgwyr” o fewn y CIA a gwasaneth cudd De Corea.

Mae Gogledd Corea yn aml yn lambastio’r Unol Daleithiau a De Corea, ond mae’r cyhuddiad hwn yn anghyffredin oherwydd y manylion y mae’n eu cynnwys.

Yn benodol, mae’n honni fod sbeis o’r ddwy wlad wedi llwgrwobrwyo dinesydd o Ogledd Corea a fu’n gweithio yn Rwsia, gan ei orchymyn i geisio llofruddio Kim Jong Un gyda chemegion ymbelydrol a gwenwynig.