Somalia
Mae tri milwr wedi’u harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth gweinidog o lywodraeth Somalia.

Fe ddaeth cadarnhad gan yr heddlu lleol fod yr arestiadau yn rhan o ymchwiliad pellach i’r amgylchiadau yn arwain at saethu’r gweinidog. Ar y dechrau, roedd hi’n ymddangos mai damwain oedd hi.

Roedd gwarchodwyr archwiliwr cyffredinol Somalia, Nur Farah, wedi saethu Abbas Abdullahi, gweinidog ail-adeiladu y wlad, nos Fercher yr wythnos hon (Mai 3).

Nur Farah oedd gweinidog ieuengaf cabinet newydd Somalia.