Y faner ar Dwr Eiffel (Llun: PA)
Mae protestwyr yn hongian oddi ar Dwr Eiffel ym Mharis heddiw, fel rhan o’u gwrthwynebiad i’r ddau ymgeisydd sydd wedi cyrraedd rownd olaf etholiad arlywyddol Ffrainc y penwythnos hwn.

Mae’r digwyddiad yn rhan o nifer o wrthdystiadau leled y ddinas gan ymgyrchwyr amgylcheddol. Yn ogystal â dringo’r Twr Eiffel, maen nhw wedi bod yn rhwystro pobol rhag mynd i mewn i ysgolion hefyd.

Fe lwyddodd protestwyr mudiad Greenpeace i gael mynediad i’r Twr Eiffel tua 5 o’r gloch y bore, gan hongian baner fawr gydag arwyddair Ffainc arni: Rhyddid, Cydraddoldeb, Brawdoliaeth.