Mae dyn wedi marw tra’n ceisio dringo i ben to un o drenau’r Eurostar.
Fe ddaeth cadarnhad gan yr heddlu fod dyn wedi cael sioc drydanol gan y ceblau uwchben y trên yng ngorsaf y Gare du Nord ym Mharis.
Ond maen nhw’n gwrthod cadarnhau p’un ai ffoadur oedd y dyn ai peidio.
Mae nifer o ffoaduriaid wedi’u lladd yn ystod y blynyddoedd diwetha’ wrth geisio gwneud eu ffordd o Ffrainc i wledydd Prydain trwy dwnnel y Sianel, yn arbennig felly yng nghyffiniau Calais.