Madeleine McCann yn 2007
Bydd gwasanaeth eglwysig yn cael ei gynnal ym Mhortiwgal, yn y pentref lle diflannodd merch fach union ddeng mlynedd yn ol.

Roedd Madeleine McCann yn dair blwydd oed pan ddiflannodd o fflat gwyliau yn Praia da Luz ar Fai 3, 2007.

Bydd y gwasanaeth hanner awr yn Eglwys Nossa Senhora da Luz ddydd Mercher yn cofio am bobol o gwmpas y byd sydd ar goll. Mae disgwyl hefyd i bobol ymgynnull ym mhentref genedigol Madeleine McCann – Rothley yn Swydd Gaerlŷr – er mwyn nodi’r dyddiad.

Y mis diwethaf, fe ddatgelodd heddlu Scotland Yard bod swyddogion yn parhau i fynd ar ôl gwybodaeth “allweddol” yn gysylltiedig ag achos Madeleine McCann.