Justin Welby, Archesgob Caergaint Llun: PA
Mae Archesgob Caergaint wedi bod yn gweddïo ar lan afon Iorddonen, yn ystod ei daith i’r Dwyrain Canol.

Mae’r Gwir Barchedicaf Justin Welby hefyd wedi bod yn cyfarfod Cristnogion o Irac sydd wedi gorfod gadael eu gwlad oherwydd rhyfel.

“Yn y lle hwn, ar lan yr Iorddonen, lle’r ydan ni’n clywed cân yr adar a dwr yn llifo, rydan ni’n gwybod hefyd ein bod wedi’n hamgylchynu o fewn ychydig gilometrau, gan drais,” meddai yn ei weddi, gan alw am fwy o gefnogaeth i bobol anghenus y byd.

Mae’r Dwyrain Canol yn gartref i rai o gymunedau Cristnogol hyna’r byd, ond mae miloedd ar filoedd o bobol wedi gorfod ffoi am eu bywydau yn ystod y blynyddoedd diwetha’ rhag eithafiaeth Islamaidd.

Mae disgwyl i Archesgob Caergaint ymweld ag Israel ddydd Mercher.