Marine Le Pen Llun: PA
Mae llefarwyr ar ran Marine Le Pen yn dweud ei bod hi wedi llên-ladrata rhannau o araith cyn-ymgeisydd arlywyddol yn fwriadol er mwyn ceisio apelio at ragor o bleidleiswyr.

Roedd Francois Fillon, y cyn-ymgeisydd Gweriniaethol, wedi cyflwyno’r araith ynglŷn â rôl Ffrainc yn Ewrop a’r byd ar 15 Ebrill – bythefnos cyn i Marine Le Pen gyflwyno ei haraith ddydd Llun.

Mae’r pwnc yn rhan allweddol o ymgyrch yr ymgeisydd asgell dde. Mae hi wedi rhoi addewid i dynnu Ffrainc allan o’r Undeb Ewropeaidd a dychwelyd at arian y franc.

Cafodd rhannau o araith Francois Fillon eu hailadrodd gair am air gan Marine Le Pen ac nid oedd hi wedi ei grybwyll neu gydnabod o le daeth y dyfyniadau.

Ar ôl iddo gael ei drechu yn y rownd gyntaf, fe apeliodd Francois Fillon ar ei gefnogwyr i roi eu cefnogaeth i’r ymgeisydd canolbleidiol Emmanuel Macron.

Mae Emmanuel Macron a Marine Le Pen yn ceisio apelio at gefnogwyr y naw ymgeisydd arall a gafodd eu trechu yn y bleidlais gyntaf, pan fethodd ddwy brif blaid Ffrainc gyrraedd yr ail rownd am y tro cyntaf yn hanes modern y wlad.