Mae’r ddau ymgeisydd yn y ras arlywyddol yn Ffrainc yn cynnal ymgyrchoedd heddiw ar yr un pryd a gorymdeithiau gan undebau sy’n dathlu hawliau gweithwyr.

Gyda llai nag wythnos i fynd, mae’r arweinydd asgell dde Marine Le Pen a’r canolbleidiwr Emmanuel Macron yn cynnal ralïau ar wahân.

Fe allai ymdrechion Marine Le Pen i geisio cael gwared a delwedd gwrth-Semitig ei phlaid,  National Front, gael ei danseilio gan ddigwyddiad arall ym Mharis sy’n cael ei arwain gan ei thad, Jean-Marie, a gafodd ei ddiarddel o’r blaid oherwydd ei ddaliadau eithafol.

Mae’r gorymdeithiau gan yr undebau yn fwy allweddol eleni, gyda rhai grwpiau yn awyddus i uno i gadw Marine Le Pen rhag dod yn arlywydd, tra bod yr undebau’n poeni y gallai Emmanuel Macron gael gwared a hawliau gweithwyr.

Dywedodd Emmanuel Macron y byddai ei gynlluniau i ailstrwythuro cyfreithiau llafur cymhleth Ffrainc yn rhoi hwb i greu swyddi.