Mae cyn-ryfelgi yn Afghanistan wedi cyhoeddi ei fod am weld heddwch yn ei wlad,

Mae Gulbuddin Hekmatyar, arweinydd y grwp Islamaidd, Hezb-i-Islami, wedi bod yn gwrthwynebu’r Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid ers ymosodiad 2011, ond mae wedi ymddangos ar deledu yn Afghanistan i alw am ddod â’r rhyfela i ben.

Mewn anerchiad i griw o bobol a swyddogion y llywodraeth yn nhalaith Laghman, meddai: “Dewch i ni estyn dwylo i roi diwedd ar ryfel, a dod â heddwch i Afghanistan.”

Ym mis Chwefror eleni, fe gafodd enw Gulbuddin Hekmatyar ei dynnu oddi ar restr y Cenhedloedd Unedig o bobol oedd yn ymwneud â’r Wladwriaeth Islamaidd a’r bobol oedd yn gysylltiedig ag al-Qaida.

Fis Medi y llynedd, fe arwyddodd arlywydd Afghanistan, Ashraf Ghani, gytuneb heddwch gydag o. Yn hwnnw, mae’r ddau’n addunedu i lobïo tros heddwch.