Nicola Maduro, arlywydd Venezuela
Mae Venezuela wedi rhoi gwybod yn ffurfiol i Sefydliad Gwladwriaethau America (yr OAS) o’i bwriad i dynnu allan o’r corff o wledydd.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yng nghanol protestiadau chwyrn yn y wlad, ac wrth i wledydd eraill y byd alw ar i’r llywodraeth dan yr arlywydd Nicolas Maduro gynnal etholiadau a rhyddhau carcharorion.

“Mae hon yn foment hanesyddol, ac mae’n ddechrau ar gyfnod newydd o annibyniaeth i Venezuela,” meddai’r llythyr ymadael. “Venezuela fydd y wlad gyntaf i adael y bloc… fyddwn ni ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd na thrafodaeth gyda’r OAS eto.”

Mae beth bynnag 28 o bobol wedi’u lladd, a channoedd o bobol wedi’u hanafu, yn ystod protestiadau yn ninias Caracas ac mewn mannau eraill yn Venezuela. Mae lluoedd diogelwch y wlad wedi bod yn mynd ben-ben â phrotestwyr ar y strydoedd dros y mis diwethaf, ac mae mwy na 1,300 o bobol wedi’u harestio.

Ddydd Gwener (Ebrill 28) fe orymdeithiodd cannoedd o bobol i garchar gwleidyddol y tu allan i’r brifddinas i fynnu bod arweinydd yr wrthblaid, Leopoldo Lopez, a gwrthdystwyr eraill yn cael eu gollwng yn rhydd.

Fe fu protestwyr yn gorymdeithio mewn dinasoedd eraill hefyd, lle maen nhw’n dweud fod 178 o bobol yn cael eu dal ar gyhuddiadau gwleidyddol.