Mae nifer y bobol sy’n ymateb i negeseuon gan Donald Trump ar wefan Twitter, wedi lleihau’n raddol dros y misoedd diwethaf, yn ol astudiaeth.

Fe allai hynny fod oherwydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau ei hun gyfrannau llai i’r wefan gymdeithasol… neu oherwydd bod newydd-deb y syniad wedi pylu rhyw ychydig.

Mae’r corff, Cortico, sy’n dadansoddi gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi bod yn ystyried yr hyn y mae Donald Trump yn ei rannu gyda’i ddilynwyr ar Twitter, ynghyd â faint o bobol, a phwy, sy’n darllen, ymateb a rhannu ei negeseuon.

Mae eu hymchwil yn dangos fod dynion yn fwy tebygol o ail-drydar sylw gan Donald Trump; a bod pobol sy’n tueddu i’r chwith yn wleidyddol yn fwy tebygol na’r rhai ar y dde o ymateb i neges.

Mae cyfarwyddwr cyfryngau cymdeithasol Donald Trump, Dan Scavino, yn dweud fod Twitter yn parhau i fod yn “ffordd anhygoel” i’r arlywydd gyfathrebu’n uniongyrchol gyda phobol America.