Pab Ffransis (Llun: PA)
Mae’r Pab yn paratoi ar gyfer cynnal offeren yn yr Aifft ddydd Sadwrn.

Fe fydd Ffransis hefyd yn cyfarfod â rhai o offeiriaid y ffydd yn y wlad, cyn iddo ddychwelyd i Rufain.

Mae cyfryngau’r wlad yn rhagweld y gallai 25,000 o bobol ddod i Cairo heddiw i fod yn rhan o’r oedfa ar ail ddiwrnod ymweliad pennaeth yr eglwys Gatholig â gwlad fwya’ poblog y Dwyrain Canol.

Ddydd Gwener, fe alwodd Ffransis ar i arweinwyr yr Aifft ymwrthod â thrais yn enw Duw, gan annog y wlad i ddal ati i geisio cael gwared ag “Islam wleidyddol”.

Prif ddigwyddiad y daith oedd ei ymweliad ag Al-Azhar yn y brifddinas – lle mae pobol sy’n dilyn Islam Swnni wedi bod yn cael eu dysgu a’u hyfforddi i fod yn glerigwyr ers mil o flynyddoedd.

Fe fu cyfarfod hefyd rhwng y Pab ac arlywydd yr Aifft, Abdel-Fattah el-Sissi.