Mae un o daleithiau America wedi ymarfer y gosb eithaf ar bedwar carcharor o fewn wyth niwrnod, trwy chwistrelliad marwol.

Fe laddwyd Kenneth Williams, 38 oed, am 11.05yh nos Iau, a hynny yng ngharchar Cummins yn Varner.

Roedd y dalaith wedi amserlennu wyth o farwolaethau dros gyfnod o 11 niwrnod oherwydd bod dyddiad defnyddio un o’r cyffuriau sy’n cael ei ddefnyddio yn y chwistrell yn dod i ben.

Mae’r pedwar achos yr wythnos hon yn cynnwys ’marwolaeth ddwbwl’ ddydd Llun – y gyntaf i gael ei threfnu yn yr Unol Daleithiau ers y flwyddyn 2000.